Home>Conferences>Cynhadledd Flynyddol y Ganolfan Adfer Afonydd 2026

Cynhadledd Flynyddol y Ganolfan Adfer Afonydd 2026

29 a 30 Ebrill 2026, ICC Cymru, Casnewydd

Pre-conference site visit on 28th April

Mewn partneriaeth â Pedair Afon LIFE

RRC LOGO

Ar ôl cynhadledd arall a dorrodd record, pan ddaeth 500 o unigolion i Brighton, rydym nawr yn cynnal ein cynhadledd yng nghanolfan gynadledd ryngwladol flaengar ICC Cymru ger Casnewydd yn Ne Cymru.

Dyma ein rhaglen gynhadledd fwyaf erioed, gyda 90 o sgyrsiau ar draws 20 sesiwn. Bydd rhywbeth at ddant pawb yn y gynhadledd eleni, boed yn brosesau naturiol, ailgyflwyno rhywogaethau, manteision cymdeithasol, rheoli llifogydd yn naturiol, rhwystrau, a llawer iawn mwy. Gweler y rhestr lawn yma.

Gallwch gadw lle nawr, ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod prisiau 2025 wedi’u rhewi! Gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio ar hyn trwy gadw lle cyn 13 Chwefror 2026 i gael y pris gorau.

Present 2

Prisiau 2025 wedi’u rhewi! Tocynnau cynnar ar gael tan 13 Chwefror

Prisiau (yn cynnwys TAW)

Aelodau’r Ganolfan Adfer Afonydd

Heb fod yn aelod

Tocyn deuddydd + pryd Gwobr Afon

£390   £519

£519   £663

Tocyn diwrnod + pryd Gwobr Afon

£272   £356

£365   £455

Tocyn diwrnod

£222   £306

£315   £405

Pryd Gwobr Afon y DU yn unig

£50

£50

Bydd gennym nifer cyfyngedig o leoedd â disgownt, sy’n cael eu hariannu gan ein noddwyr. Cyn belled â bod y cyllid ar gael, gallwn gynnig lleoedd â disgownt o 50% i ymddiriedolaethau bach, cymdeithasau, myfyrwyr, ac unigolion megis gwirfoddolwyr, a allai fel arall fethu â dod o hyd i’r cyllid i fedru dod i’r gynhadledd. Llenwch y ffurflen isod.

Ynglŷn â’r lleoliad

Mae ICC Cymru yn ganolfan gynadledda o’r radd flaenaf wedi’i lleoli yng Nghasnewydd, De Cymru, sy’n borth i dirweddau naturiol godidog a dinasoedd bywiog Cymru. Gan ei fod yn un o’r lleoliadau mwyaf newydd yn y DU, mae’n cynnig cyfleusterau arloesol ac mae gan y ganolfan nifer o gymwysterau o ran cynaliadwyedd.

Rhagor o fanylion

ICC Wales Exterior 21

Llety

Mae gan yr ardal gyfagos, yn cynnwys Casnewydd, lawer o opsiynau o ran llety yn ystod y gynhadledd. Rydym wedi trefnu cyfraddau arbennig gyda’r lleoliadau isod, ond rydym yn argymell eich bod yn chwilio mewn mannau eraill am opsiynau eraill hefyd.

Cyfraddau wedi’u trefnu

GwestyFesul nosonTaith gerdded i’r lleoliadSut i gael mynediad
Tŷ Newport£125 yn cynnwys TAW15 munudCadwch le yma – wrth ddewis dyddiad, ychwanegwch god cadw lle o dan “Block ID” gan ddefnyddio’r cod ICW280426. Nifer cyfyngedig ar gael tan 28 Mawrth.
Coldra Court£135 yn cynnwys TAW20 munudCadwch le yma – wrth ddewis dyddiad, ychwanegwch god cadw lle o dan “Block ID” gan ddefnyddio’r cod ICW280426 – mae’r pris ar gael ar gyfer noson 29 Ebrill yn unig. Nifer cyfyngedig ar gael tan 28 Mawrth.
Holiday Inn£145 yn cynnwys TAW10 munudFfoniwch i gadw lle: 00800 80 80 0800; Desg flaen: 44-1633-412777; E bost: newportevents@holidayinns.co.ukGwefan; Dyfynnwch “Dyraniad Bloc y Ganolfan Adfer Afonydd”. Nifer cyfyngedig ar gael tan 28 Mawrth.

Opsiynau eraill

GwestyPristo venueOther info
Ibis Budget Newport£10 munud mewn car 
Days Inn gan Wyndham, Magwyr£12 munud yn gyrru 
Tŷ Magor££12 munud yn gyrru 
Gwesty Mercure Casnewydd£££30 munud ar drafnidiaeth gyhoeddusEwch ar fws rhif 73 o Friars Walk i Celtic Manor ac ICC Cymru
Travelodge Casnewydd£30 munud ar drafnidiaeth gyhoeddusEwch ar fws rhif 73 o Friars Walk i Celtic Manor ac ICC Cymru

Teithio

Mae canllaw teithio defnyddiol ar gael ar wefan ICC Cymru, p’un a ydych chi’n bwriadu gyrru, dal awyren, neu ddod ar drafnidiaeth gyhoeddus. Gweler y canllaw trafnidiaeth yma.

Mae disgownt wedi’i drefnu ar gyfer prisiau trên gyda Great Western Railway cyhyd â bod gennych gadarnhad eich bod yn mynd i gynhadledd y Ganolfan Adfer Afonydd gyda chi ar y trên. Er enghraifft:

  • Tocyn dychwelyd o Paddington Llundain: £54
  • Tocyn dychwelyd o Parkway Bryste: £19
  • Tocyn dychwelyd o Rydychen: £54
  • Tocyn dychwelyd o Penzance: £49

Dim ond yma y gallwch archebu’r tocynnau hyn.

Am y telerau ac amodau diweddaraf, gweler tudalen wybodaeth ICC Cymru.

Pedair Afon LIFE

Cefnogir cynhadledd 2026 gan brosiect Pedair Afon LIFE. Bydd cyfleoedd i gynrychiolwyr ymweld â rhai o’r prosiectau cyffrous y maent wedi bod yn eu cyflawni megis ailgysylltu’r gorlifdir yn Nhŷ Mawr ger Pen y Fan a deorfa misglod perlog yr afon ger Aberhonddu.

Logo wider